Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Blaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Priorities for the Children, Young People and Education Committee

 

CYPE 53

Ymateb gan : Rhieni Dros Addysg Gymraeg

Response from : Parents for Welsh Medium Education

 

Mudiad yw RhAG sy’n cynrychioli rhieni disgyblion mewn ysgolion Cymraeg a rhai sydd am weld twf ysgolion Cymraeg ac addysg Gymraeg. Caiff RhAG ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru. Mae RhAG yn credu, fel y gwna Llywodraeth Cymru, mai ysgolion Cymraeg yw’r model ysgol gorau o ran rhoi sgiliau llawn mewn dwy iaith i bob disgybl.

 

Mae RhAG yn falch o’r cyfle i gyflwyno’r sylwadau canlynol ar flaenoriaethau ar gyfer y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysgyn ystod y pumed Cynulliad. 

 

Fel mudiad sy’n gweithredu er lles hyrwyddo Addysg Gymraeg, byddwn yn cyfyngu ein sylwadau i faterion sy’n ymwneud â’r maes penodol hwnnw.

 

CYFFREDINOL

Dros y 60 mlynedd diwethaf, mae addysg Gymraeg wedi cynyddu ym mhob rhan o Gymru. Erbyn hyn mae tua 22% o blant ysgolion cynradd Cymru’n derbyn addysg Gymraeg. Mae tua 17% o ddisgyblion ysgolion uwchradd Cymru’n derbyn addysg Gymraeg. Ond yn y sector addysg bellach mae’r ganran o dan 5%, ac mae hyn yn debyg mewn addysg uwch.

Er bod Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ar gyferr 2020, gyda 30% o ddisgyblion 7 oed yn mynychu ysgolion Cymraeg erbyn 2020, nid yw’n debygol y caiff y targed hwn ei gyrraedd.

Rydym yn cynnig targed realistig o 50% o ddisgyblion 7 oed mewn addysg Gymraeg erbyn 2030.

Yn dilyn cyhoeddi Strategaeth y Gymraeg a nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr y Gymraeg erbyn 2050, byddwn yn galw ar i’r Pwyllgor sicrhau cynllunio gofalus a chydlynus er mwyn cyrraedd y nod uchelgeisiol hwn.

Mae cyflymu twf yr ysgolion Cymraeg, sef y prif ddull o gynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg, dros yr ugain mlynedd nesaf yn gwbl allweddol os ydym am wireddu’r targedau hyn.

 

 

BLAENORIAETHAU

Nodwn fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi ymgymryd ag Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn ystod y pedwerydd Cynulliad. Cyhoeddwyd adroddiad ar ddiwedd yr ymchwiliad yn crynhoi cyfres o argymhellion. Gofynnwn i’r Pwyllgor ailymweld â’r argymhellion hynny er mwyn pwyso ar y Llywodraeth i weithredu. Mae hyn yn

Mae RhAG eisoes wedi cyhoeddi ein blaenoriaethau ar gyfer cyflymu twf Addysg Gymraeg ar ffurf ein dogfen maniffesto, Iaith gwlad, iaith addysg a gellir crynhoi ein prif gasgliadau fel â ganlyn:

 

Mesurau i gyflymu twf ysgolion cyfrwng Cymraeg

Cynyddu nifer siaradwyr drwy dwf Addysg Gymraeg. Ein nod fyddai cael 50% o blant 7 oed mewn addysg Gymraeg erbyn 2030. I gyflawni hyn mae angen cael trefn hwyluso sefydlu ysgolion Cymraeg ledled ardaloedd llai Cymraeg y wlad.  Mae angen diwygio’r Cynlluniau Datblygu Addysg Gymraeg fel bod awdurdodau lleol yn ymrwymo i sefydlu nifer penodol o ysgolion Cymraeg newydd bob blwyddyn. Mae angen sefydlu trefn sydd nid yn unig yn diwallu’r galw ond yn symbylu twf pellach, a rhoi cyfarwyddyd clir i awdurdodau lleol ar sut i weithredu hynny.

 

Diffiniadau ieithyddol ysgolion

Er bod diffiniadau ieithyddol wedi’u cynnig yn genedlaethol am wahanol sefydliadau addysgol, nid yw awdurdodau addysg lleol yn aml yn rhoi gwybodaeth glir i rieni am yr ysgolion yn eu gofal.

Rydym yn annog cymeradwyo’r argymhelliad yn Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth y Cynulliad sy’n nodi y dylid darparu Addysg Gymraeg o fewn sefydliadau lle y mae amgylchedd, yn hytrach nag o fewn ysgolion dwyieithog lle digwydd llawer o’r rhyngweithio rhwng staff a disgyblion yn Saesneg.

Dylid adolygu ar fyrder y ddogfen ‘Diffinio ysgolion yn ôl y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg’ (dogfen wybodaeth rhif 023/2007, Hydref 2007). O safbwynt yr uwchradd, dylid cyfuno categori 1 a 2A a chreu categori newydd ar gyfer ysgolion 2B, C a Ch; sefydlu trefn cenedlaethol mwy tryloyw er mwyn cyfrifo nifer y disgyblion ym mhob dosbarth, sy’n cael eu arholi ym mhob pwnc a’r drefn ariannu sy’n perthyn i hynny; sefydlu trefn a fyddai’n atal glastwreiddio darpariaeth cyfrwng Cymraeg e.e. israddio categori ieithyddol ysgol.

 

Cludiant

Mae angen i awdurdodau lleol weithredu’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 gan sicrhau bod cludiant yn hyrwyddo addysg Gymraeg.

Mae pellter ysgolion Cymraeg o gartrefi disgyblion yn fwy na phellter ysgolion Saesneg o gartrefi ar gyfartaledd. Dylai fod dyletswydd ar AALlau i ddarparu cludiant i wneud iawn am y gwahaniaeth hwn.

Mae ymchwil RhAG yn dangos fod sicrwydd trafnidiaeth cyn bwysiced os nad yn bwysicach na chael cludiant am ddim. Mae ymchwil RhAG yn awgrymu y gallai’r sector Cymraeg 16+ chwalu oni bai bod cludiant ar gael yn ôl amodau’r sector -16.

Mae rhai siroedd yn codi cannoedd o bunnoedd ar ddisgyblion sy’n teithio i gael Addysg Gymraeg 16+.

Mae’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn nodi bod dyletswydd ar awdurdodau addysg i ddarparu cludiant mewn modd sy’n hyrwyddo addysg Gymraeg. Mae angen eglurder ar hyn ac ar y camau y gall Llywodraeth y Cynulliad eu cymryd os na fydd AALL yn gweithredu’n unol â hyn.

Galwn ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cludiant am ddim i addysg cyfrwng Cymraeg ôl 16 ar gael i ddisgyblion ledled Cymru.

 

Ysgolion cyfrwng Saesneg

Yn y cyd-destun addysg mae angen dysgu’r Gymraeg yn effeithiol mewn ysgolion Saesneg, ac mae hyn yn rhwym o olygu cyflwyno dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd angen rhaglen hyfforddiant ieithyddol eang i gymhwyso nifer cynyddol o athrawon.

 

Dechrau’n Deg

Mae gwaith ymchwil1 gan RhAG wedi dangos nad yw’r ddarpariaeth yn dod yn agos at y canrannau presennol sy’n derbyn addysg Gymraeg. Mae hyn yn milwrio yn erbyn ehangu Addysg Gymraeg yn hanner siroedd Cymru.

Mae bwriad i ehangu rhaglen Dechrau’n Deg dros y blynyddoedd nesaf trwy fuddsoddiad ariannolsylweddol gan Lywodraeth Cymru. Dyma faes allweddol sy’n gorgyffwrdd â chylch gorchwyl sawl Gweinidog, gan gynnwys Trechu Tlodi, Gofal Plant ac Addysg. O ganlyniad mae angen arweiniad a chyfarwyddyd polisi cenedlaethol o’r canol mewn perthynas â statws y Gymraeg o fewn y rhaglen ac ymrwymiad gan y Llywodraeth i sicrhau fod y Gweinidogion perthnasol yn gweithredu’n unol â hynny.

 

Cefnogi rhieni

Mae angen i rieni gael cefnogaeth lawn wrth iddynt anfon plant i ysgolion Cymraeg. Mae angen cynnig rhaglen ddwys o ddysgu a gloywi Cymraeg i rieni a darpar rieni, gan flaenoriaethu rhieni sy’n awyddus i droi iaith y cartref i’r Gymraeg. Mae lle amlwg i gydweithio rhwng Cymraeg i Oedolion ac ysgolion. Dylid cyflogi rhwydwaith o swyddogion maes pwrpasol i siarad wyneb yn wyneb gyda rhieni ac i weithredu fel dolen gyswllt rhwng y cartref, Cylchoedd Meithrin a’r ysgolion.

 

 

 

 

 

Hyrwyddo addysg Gymraeg a manteision dwyieithrwydd

Prin iawn yw’r marchnata sy’n digwydd i hyrwyddo addysg Gymraeg. Mae rhieni’n aml heb gael gwybodaeth am y dosbarthiadau meithrin Cymraeg a’r ysgolion Cymraeg yn eu hardal. Mae hyn yn wir yn aml hyd yn oed pan gaiff ysgol newydd ei sefydlu neu pan gaiff dosbarthiadau eu cychwyn.

Dylid cynnwys datblygiadau megis: creu a darparu pecyn gwybodaeth i deuluoedd newydd sy’n symud i Gymru; ehangu system Siartr Iaith Ysgolion Gwynedd ledled y wlad; dyfeisio rhaglen arbennig er mwyn hyrwyddo manteision addysg Gymraeg ymysg cymunedau lleiafrifoedd ethnig Cymru.

 

Mae angen pecynnau sy’n cyfleu i rieni negeseuon am fywyd a diwylliant Cymraeg. Dylai’r gefnogaeth gynnwys gwybodaeth am chwaraeon Cymraeg, caneuon, a sut i siarad Cymraeg â phlant. Mae angen sefydlu rhaglen hyrwyddo genedlaethol er mwyn cyflawni hyn.

 

Addysg a Datblygu Trefol

Pan gaiff addysg ei hystyried yng nghyd-destun cynllunio ystadau tai newydd, mae angen i awdurdodau lleol roi ystyriaethau ieithyddol yn ganolog yn y cynlluniau gan sicrhau bod sefydlu ysgolion Cymraeg yn rhan o’r cynlluniau hyn. Pan fydd y sector preifat yn ariannu datblygiadau o’r fath, mae angen manteisio ar hyn o safbwynt addysg Gymraeg. Mae angen cyfarwyddyd polisi cenedlaethol clir a diamwys ar hyn.

 

Staffio a chynllunio’r gweithlu

Mae angen datblygu cyrsiau hyfforddi cyfrwng Cymraeg i athrawon, a chynnig cyrsiau gloywi dwys i athrawon sy’n fodlon trosi i addysg Gymraeg, eto trwy gynlluniau rhyddhau o’r gwaith a thrwy ddatblygu’r Cynllun Sabothol.

Mae Mudiad Meithrin yn wynebu problemau staffio, yn enwedig yn yr ardaloedd Seisnigedig. I oresgyn hyn mae angen cynnig hyfforddiant iaith digonol yn ogystal â chynnig tâl ac amodau gwell. Mae angen sicrhau bod yr Endid Cenedlaethol Cymraeg i Oedolion yn cynnig darpariaeth ddigonol i roi hyfforddiant iaith i athrawon, gan gynnwys dysgu’r iaith a datblygu sgiliau iaith.

 

Addysg Dysgu Ychwanegol

Mae’r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yn ddiffygiol mewn sawl rhan o Gymru, ac mewn rhai meysydd yn fwy nag eraill. Mae angen gwneud awdit cyffredinol o’r ddarpariaeth fesul sir, a sicrhau bod cydweithio rhyngsirol yn cael ei hwyluso i roi tegwch i ddisgyblion sydd eisoes yn dioddef o anableddau neu anawsterau dysgu.

Mae angen sefydlu canolfannau rhagoriaeth ym mhob sir er mwyn atgyfnerthu arbenigedd a rhannu arfer dda.

Mae’n rhaid sicrhau bod darpariaethau atodol cyfrwng Cymraeg , e.e. iaith a lleferydd, seiciatreg, cymorth dyslecsia ac ati, yn statudol.

Ceir o hyd enghreifftiau o ‘arbenigwyr’ yn cynghori rhieni i symud eu plant o’r sector cyfrwng Cymraeg i’r sector Saesneg gan ddatgan y byddai’r plentyn ‘ar ei ennill’ o wneud hynny. Mae hyn yn ddull o beidio darparu gwasanaeth Cymraeg, ac mae’n gwrthod hawl disgybl o gael addysg yn ei ddewis iaith.

 

 

Deddfwriaethau eraill

Mae angen eglurder ac arweiniad cenedlaethol ar swyddogaeth y Safonau Iaith a Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o ran y ffyrdd y gallant hwyluso cyrraedd targedau’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg a’r Strategaeth Iaith.

 

Sylwadau cryno a gyflwynir yma ond byddem yn croesawu’r cyfle i ymhelaethu arnynt yn ôl yr angen.